Welsh – Goroesi camdriniaeth: y ffeithiau
Goroesi camdriniaeth: y ffeithiau
ffaith
Mae sawl gwahanol fath o gamdriniaeth Gall camdriniaeth fod yn gorfforol, rhywiol neu emosiynol. Mae’n gallu cynnwys cael eich brifo, eich amddifadu neu eich esgeuluso.
ffaith
Nid chi sydd ar fai Mae camdriniaeth yn digwydd pan mae rhywun sydd â mwy o ber yn achub mantais arnoch chi, neu’n eich trin chi mewn ffordd nad yw’n iawn. Nhw sy wedi gwneud rhywbeth drwg, nid chi. Yn aml mae pobl sy wedi cael eu cam-drin yn beio eu hunain. Ond does dim bai arnyn nhw, a ddylen nhw ddim gorfod teimlo’n euog.
ffaith
Dyw e ddim yn golygu bod rhywbeth yn bod arnoch chi Mae llawer o bobl wedi dioddef camdriniaeth – pobl o gefndiroedd o bob math. Weithiau mae pobl yn credu bod rhaid bod nhw’n wahanol, yn frwnt, yn od, neu hyd yn oed dim yn gall, am fod nhw wedi cael eu cam-drin. Ond dyw’r ffaith bod pethau drwg wedi digwydd i chi ddim yn golygu’ch bod chi’n ddrwg. Rydych chi’n berson normal, sydd o werth ac yn llawn potensial.
ffaith
Gall camdriniaeth effeithio ar eich bywyd Gall y boen mae pobl yn ei dioddef o ganlyniad i gamdriniaeth barhau am amser. Mae’n gallu effeithio ar eich hunan-hyder, eich addysg, eich gwaith a’ch perthnasau. Mae’n gallu gwneud i bobl deimlo’n ofnus ac yn isel eu hysbryd. Ond dyw’r problemau hyn ddim yn gorfod para am byth.
ffaith
Y mae pobl yn dod dros effeithiau camdriniaeth Mae llawer o’r rheiny sy wedi cael eu cam-drin wedi ffeindio ffyrdd i ddelio â’u teimladau a’u problemau ac wedi mynd ymlaen i fyw bywyd boddhaol. Dyw hyn ddim yn golygu nad oedd y gamdriniaeth yn bwysig. Ond gallwch chi gael eich bywyd yn ôl, a gadael y boen yn y gorffennol.
ffaith
Mae help ar gael Y dyddiau hyn mae mwy o lawer o ddealltwriaeth o’r ffyrdd mae camdriniaeth yn gallu effeithio ar bobl, ac mae ’na brosiectau i’w helpu. Gall siarad am eich profiadau fod o help mawr. Mae hyn yn gallu bod yn boenus, ond gyda chefnogaeth dda gallwch chi ddod trwyddi a chymryd eich bywyd yn ôl i chi’ch hun.
ffaith
Mae’r hawl gyda chi i fod yn ddiogel Gall eich profiadau yn y gorffennol wneud i chi deimlo nad yw’r byd yn saff. Ond does gyda neb arall yr hawl i’ch brifo chi, eich bwlio chi, na’ch trin chi mewn ffordd wael, pwy bynnag ydyn nhw. Mae gyda chi’r hawl i fod yn ddiogel ac i wneud beth bynnag sydd eisiau i’ch cadw chi’n saff nawr. Gall hyn olygu sefyll i fyny drostoch chi eich hun, neu ofyn i bobl eraill am help fel bod chi’n gallu byw eich bywyd heb ofid nac ofn.